Sŵnami
Cychwynnodd Ifan Davies, Ifan Ywain, Gruff Jones, Gerwyn Murray a Lewis Williams eu taith gerddorol yn 2011 - taith a’u dyrchafodd i fod yn un o fandiau pwysicaf yr iaith Gymraeg. Ar ôl creu cynnwrf gyda’u EP cyntaf ‘Du a Gwyn’, gwnaeth y band ddim wir ffrwydro nes rhyddhau eu halbym hunan-deitledig, yn curo Albym y Flwyddyn, cael eu henwebu am ‘The Welsh Music Prize’, cynrychioli Radio 1 yng ngŵyl Eurosonic yn yr Iseldiroedd, yn ogystal â pherfformio sesiwn yn stiwdio chwedlonol Maida Vale.